O Dan y Dderwen

Croeso. Yma O Dan y Dderwen, 'rwy’n cynnig cefnogaeth sy’n seiliedig ar dalu sylw i ymateb y corff pan mae mewn poen, wedi blino'n lân a symptomau straen llwyr.

Fel y dderwen s'yn gadarn a'r gwreiddiau'n ddwfn, nid oes angen trwsio na rheoli dim ar eich profiad chi, dim ond dychwelyd at yr hyn sy’n real ac yn fyw ynoch ac ymddiried eto yn synnwyr naturiol eich corff eich hun.

Helo, Lisa ydw i.

Am dros ddegawd, bûm yn arbenigo fel ffisiotherapydd yn cynorthwyo pobl oedd yn dioddef poen parhaus a hirdymor gan gefnogi a helpu pobl oedd yn aml wedi rhoi cynnig ar bopeth arall oedd ar gael i geisio lleddfu'r poen, tensiwn a sypmtomau eraill ond heb lwyddo - meddyginiaethau cryf, llawdriniaethau, ymarfer corff ac yn y blaen.

Mi sylwais ar rywbeth pwysig iawn ynlŷn â phoen.

Wrth wraidd y symptomau corfforol, 'roedd y system nerfol wedi'w chloi i mewn i gyflwr 'amddiffynol' a'r corff wedi dysgu i ddal yn dynn i hen batrymau, wrth i'r person ymdrechu'n or- galed, ymdopi neu beidio ymateb er mwyn ymdopi o ddydd i ddydd.

Mae trîn y corff heb roi sylw llawn i haenau dyfnach y system nerfol yn golygu bod y poen yn parhau.

Daeth yn amlwg i mi hefyd ein bod yn aml yn gor-gymhlethu wrth ddadansoddi symptomau gan hefyd or-ymdrechu a gor-ymyrryd wrth geisio trwsio rhywbeth sydd, yn aml iawn, yn gofyn am symlrwydd.

Newidiodd y canfyddiad hwn gyfeiriad fy llwybr â’m ffordd o weithio.

Mae gennyf flynyddoedd o brofiad clinigol ac rwy’n credu'n gryf yng ngallu cynhenid y corff a’i angen am symlrwydd llwyr. 'Rwy’n ymarfer fel ymarferydd Somatic Experiencing® (SE), gan weithio hefyd gyda dulliau egni ac amledd y corff hefyd. Mae byd natur yn darparu lle diogel i arafu, gorffwys, a gwrando ar yr hyn mae’r corff eisoes yn ei gyfleu.

Mae’r ffordd hyn o gynnig cefnogaeth wedi’i lunio gan yr amseroedd â dreuliais yn gorffwys o dan goed derw ym mryniau Cymru yn ystod cyfnodau anodd iawn yn fy mywyd fy hun - eistedd yn dawel, yn pwyso yn eu herbyn, yn teimlo eu presenoldeb cadarn a gwreiddiedig, ac yn synhwyro sefydlogrwydd rhywbeth nad yw’n brysio nac yn mynnu dim.

Dyma hanfod y dywediad Cymraeg “yn ôl at fy nghoed”, sy’n golygu’n syml - yn ôl at fy ngwreiddiau - yn aml yn dilyn cyfnod o anhwylder. Mae’r sefydlogrwydd yma wedi’i blethu drwy bopeth 'rwy’n ei gynnig, wrth gerdded yn yr awyr agored, dod at ein gilydd gydag eraill, neu gyfarfod yn unigol.

Os ydych chi’n byw gyda phoen, blinder, symptomau straen neu symptomau heb esboniad clir, efallai y bydd fy null i o weithio yn cynnig ffordd arall ymlaen – nid drwy ofyn i chi drwsio, rheoli neu barhau i weithio arnoch chi’ch hun, ond drwy gynnig y gofod i arafu, gorffwys ac ailgysylltu – gan ganiatáu i gydbwysedd, rhwyddineb, llawenydd a bywiogrwydd ddychwelyd yn naturiol. 

Os yw hyn yn taro tant gyda chi, mae croeso cynnes i chi gysylltu - byddai’n braf iawn clywed gennych.

Gyda seibiant a llonyddwch mae’r corff yn adnabod y ffordd adref.

Ffyrdd o dreulio amser O Dan y Dderwen…

Cynigir sesiynau ar-lein a wyneb yn wyneb ledled Sir Ddinbych a’r ardaloedd cyfagos - yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os hoffech i mi ddod i siarad mewn digwyddiad, encil neu weithdy rydych chi’n ei drefnu, mae croeso i chi gysylltu i drafod.

Wyneb yn Wyneb & Ar-lein

Sesiynau un-i-un neu mewn grwpiau bach. Lle i arafu a gwrando ar beth sydd yno’n barod - o dan y sŵn, y pwysau a’r teimlad o orfod dal popeth at ei gilydd. Byddwn ni’n edrych ar sut mae straen, poen a theimlo’n orlawn yn cael eu cario yn y corff - gan ddeall sut maen nhw wedi ffurfio a pham eu bod nhw wedi aros. Gyda chefndir mewn poen parhaus a gwaith y system nerfol, mi fydda i’n eich cefnogi i ddechrau dad-ddirwyn y patrymau yma, gan ganiatáu i’r corff ddod nôl tuag at gydbwysedd a rhwyddineb - mewn ffordd sy’n gweithio gyda’ch bywyd bob dydd. Gall sesiynau fod wyneb yn wyneb neu ar-lein - opsiwn mwy cyfleus pan mae teithio, amser neu egni yn brin.

Yn yr Awyr Agored mewn Natur

Gall sesiynau hefyd ddigwydd tu allan - wrth gerdded neu jyst bod allan mewn ffordd sy’n addas i chi. Mae natur yn gallu newid yn sylweddol sut mae’r corff a’r meddwl yn teimlo poen, blinder a straen. Mae’r golau, yr awyr iach a’r amgylchedd o gwmpas yn gallu tynnu’r ymdeimlad caeedig o fod dan do - gan greu mwy o le i feddwl a gwneud synnwyr och symptomau. Gall symudiad ysgafn helpu hefyd. Mae cerdded yn dod â rhythm naturiol sy’n helpu pethau i symud - yn gorfforol ac yn feddyliol. Ond mae eistedd, sefyll neu orffwys tu allan yn dod â’r un ymdeimlad o gydbwysedd a rhwyddineb hefyd.

Cefnogaeth yn y Gweithle

Dwi’n cynnig cefnogaeth i unigolion neu dimau yn y gwaith sy’n wynebu pwysau, straen neu ofynion parhaus. Byddwn ni’n canolbwyntio ar sut mae hyn yn cael ei deimlo yn y corff, a sut mae’n effeithio ar egni, canolbwyntio, cyfathrebu a bywyd gwaith bob dydd. Mi fydda i’n helpu pobl i ddeall yr ymatebion yma’n well a dod o hyd i ffyrdd ymarferol o leihau symptomau - i atal llosgi allan, lleihau tensiwn a chefnogi lles yn y gwaith. Y nod yw syml: dod o hyd i ffordd fwy sefydlog, glir a chynaliadwy o weithio sy’n gallu para.

Geiriau caredig gan gyn-gleientiaid...

"I only wish I could find the words to fully express my gratitude for Lisa, without exaggeration - it has been my lifeline. Lisa’s professionalism, wisdom, warmth, generosity, and intuitive presence is the greatest gift on what has been a very challenging journey."

Beki

"Lisa has completely changed my life in more ways than I could have imagined. I feel like a different person. I feel strong and empowered. I will be forever grateful. I have already recommended her to many people."

Susanna

"Her kind and calm manner and her vast knowledge was so helpful to me when I was completely overwhelmed by my diagnosis and was feeling absolutely lost."

Lucy

“Five stars do not do her justice. The group relaxation for chronic pain session actually made me feel in control of my pain for the first time in almost a decade. THANK YOU!”

Hannah

Ymunwch â’r rhestr e-bostio

Os hoffech gadw mewn cysylltiad, mae croeso i chi ymuno â’m rhestr bostio. Drwy danysgrifio, cewch ambell e-bost oddi wrthyf gyda newyddion am fy nghynigion diweddaraf a rhai myfyrdodau personol. Cedwir eich manylion yn breifat, ni chânt eu rhannu, a gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg. Mae manylion pellach ar gael yn y 'Privacy Policy' isod.